Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (113) v5 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Halogi Cynnyrch Cig Eidion (30 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Diwygio TGCh - adolygu'r rhaglen Dysgu Digidol (30 munud) |
5. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cyflwyno'r Bil Teithio Byw (Cymru) (60 munud) |
6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Y diweddaraf ynghylch Mynediad at Ddeddfwriaeth (30 munud) |
7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Ynni (15 munud) NDM5120 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Ynni sy’n ymwneud â sefydlu safonau perfformiad ynghylch allyriadau i osod terfynau ar faint o garbon deuocsid y gall gorsaf bŵer tanwydd ffosil newydd (h.y. un sy’n cael ei phweru gan lo, olew neu nwy “naturiol”) ei ollwng yn ystod unrhyw flwyddyn benodol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Dogfennau Ategol |
8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Mordwyo Morol (Rhif 2) (15 munud) NDM5126 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Mordwyo Morol (Rhif 2), sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Peilota 1987, Deddf Harbyrau 1964 a Deddf Llongau Masnach 1995, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Dogfennau Ategol |
9. Dadl: Setliad yr Heddlu (60 munud) NDM5163 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2013-2014 (Setliad Terfynol – Awdurdodau Heddlu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2013. Dogfen Ategol |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 20 Chwefror 2013